Rhif y ddeiseb: P-06-1349

 

Teitl y ddeiseb: Dim dinasoedd na threfi ’15’ neu faint bynnag o funudau yng Nghymru heb gynnal pleidlais gyhoeddus.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae'r rhai sy'n credu'r 'geiriau blodeuog' hyn yn pennu eu tynged eu hunain os ydyn nhw’n credu nad carchar yw hwn! Unwaith y bydd y seilwaith (rhwystrau, camerâu, gwylwyr newydd etc) wedi’u gosod a'r dirwyon yn dechrau dod drwy'r drws – BYDD YN RHY HWYR!

Dyma’r cam nesaf yn yr ymdrech i’n caethiwo - cardiau adnabod iechyd, arian digidol, ceir trydan, cartrefi trydan ac mae’n bosibl eu rheoli i gyd drwy droi switsh. Meddai Stan:- Minlliw ar Fochyn. Peidiwch â chael eich twyllo - Mae'r rhai sy'n credu'r 'geiriau blodeuog' hyn yn pennu eu tynged hunain os ydyn nhw’n credu nad carchar yw hyn!

Efallai nad oes ffensys na bariau carchar ETO, ond sut fyddwch chi’n symud o le i le (YN RHYDD) pan fydd eich Cyngor (AR Y DECHRAU) yn creu’r parthau hyn ond dim cosb benodedig - AC YN DWEUD MAI DIM OND ‘Canllawiau ydyn nhw’!!

 

Gallaf weld nifer fawr yn cyd-fynd â’r newidiadau - yn dweud ‘Does dim byd i boeni amdano'! Unwaith y bydd y seilwaith (rhwystrau, camerâu, gwylwyr newydd etc) wedi’u gosod a'r dirwyon yn dechrau dod drwy'r drws – BYDD YN RHY HWYR!

Dyma’r cam nesaf yn yr ymdrech i’n caethiwo - cardiau adnabod iechyd, arian digidol, ceir trydan, cartrefi trydan ac mae’n bosibl eu rheoli i gyd drwy droi switsh. Y dinesydd da, gwres, bwyd a theithio cyfyngedig. Y dinesydd amheus…

Mae angen i bawb wrthsefyll y dotalitariaeth hon ni waeth pa mor flodeuog a lliwgar yw’r sothach.

https://tcpa.org.uk/wp-content/uploads/2021/11/final_20mnguide-compressed.pdf

 


1.        Cefndir

Mae’r Gymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref yn nodi’r canlynol:

The idea of ’20 minute neighbourhoods’ – sometimes called by other names, such as ’15 minute cities’ – has been gaining momentum for several years and is already being implemented in places such as Melbourne and Paris.

Y cysyniad yw creu cymdogaethau lle gall pobl ddiwallu eu hanghenion bob dydd o fewn taith gerdded neu feicio fer. Mae Sustrans yn tynnu sylw at y canlynol:

An important objective of the 20-minute neighbourhood concept is to better align spatial and urban planning (i.e. what is in an area) with transport planning (transport infrastructure), to make it easier for people to walk, cycle and use public transport.

Penawdau newyddion a chynlluniau yn Rhydychen

Yn ddiweddar, roedd y cysyniad yn destun y penawdau newyddion mewn perthynas â chynlluniau yn Rhydychen.

Mae Cyngor Dinas Rhydychen yn mynd drwy’r broses o ddatblygu Cynllun Lleol newydd (sy’n cyfateb i Gynllun Datblygu Lleol yn Lloegr). Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi dewisiadau a ffefrir ar gyfer y cynllun newydd ac wedi nodi cyfres o 'edau trosfwaol' - un ohonynt yw'r cysyniad o ddinas 15 munud i sicrhau bod trigolion lleol yn cael mynediad i'w holl anghenion dyddiol o fewn taith gerdded 15 munud i'w cartref.

Ar yr un pryd ag ymgynghoriad Cyngor y Ddinas ar y cynlluniau hyn, cytunodd Cyngor Sir Rhydychen i dreialu’rdefnydd o 'hidlwyr traffig' i greu cymdogaethau traffig isel ac atal ceir preifat rhag mynd i rannau penodol o'r ddinas. Arweiniodd hyn at ddyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol y byddai'r ddinas yn cael ei rhannu'n ardaloedd gyda rhwystrau ffisegol yn atal pobl rhag symud o un gymdogaeth i'r llall.

Mewn ymateb, cyhoeddodd y Cynghorau Dinas a Sir ddatganiad ar y cyd i esbonio'r polisïau a mynd i'r afael â'r dyfalu.

Mae llywodraethau lleol mewn dinasoedd eraill yn Lloegr gan gynnwys Bryste, a Sheffield hefyd wedi cynnig cyflwyno elfennau o ddinas 15 munud. 

Polisi Cynllunio yn Nghymru

Nid yw'r cysyniad ynddo'i hun yn bolisi cynllunio cenedlaethol sydd wedi cael ei fabwysiadu yng Nghymru ar hyn o bryd - fodd bynnag mae polisi cynllunio cenedlaethol yn rhoi ffocws ar leihau dibyniaeth ar geir a chreu cymdogaethau lle mae gwasanaethau wedi'u lleoli'n agosach at ble mae pobl yn byw.

Mae Polisi Cynllunio Cymru, sef polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru, yn cynnwys "canlyniadau cenedlaethol creu lleoedd cynaliadwy" y dylid eu defnyddio “i helpu i baratoi cynlluniau datblygu ac i asesu cynigion datblygu". Mae’r canlyniadau hyn yn cynnwys bod lleoedd “yn hygyrch drwy deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus”, “heb fod yn ddibynnol ar geir” a bod ganddynt “[g]yfleusterau a gwasanaethau o fewn y gymuned”.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Yn ei lythyr at y Cadeirydd dyddiedig 9 Awst 2023, dywed y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

 …nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gyflwyno 'dinasoedd 15 munud' yng Nghymru.

Mae'r Dirprwy Weinidog hefyd yn tynnu sylw at Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae Strategaeth yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer “system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon”. Mae'r strategaeth yn nodi tair blaenoriaeth i gyflawni'r weledigaeth hon, ac un ohonynt yw "dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau’r angen i deithio”.

Fodd bynnag, yn ei lythyr mae'r Dirprwy Weinidog yn awgrymu:

... Nid yw hyn yn golygu atal teithio, na chyfyngu ar ryddid, mae'n golygu cynllunio ymlaen llaw ar gyfer gwell cysylltedd ffisegol a digidol a chefnogi mynediad at fwy o wasanaethau lleol - gan gynnwys mwy o weithio gartref a gweithio o bell.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Ym mis Mehefin 2022, cyflwynodd Janet Finch-Saunders AS gwestiwn ysgrifenedig yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori'r “cysyniad cymdogaeth 20 munud mewn polisi cynllunio lleol a chenedlaethol”.

Yn ei hymateb fe wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd dynnu sylw at y ffaith bod polisïau yn Polisi Cynllunio Cymru yn hyrwyddo datblygu llefydd cywasgedig a cherddedadwy fel rhan o ymrwymiad ehangach i greu lleoedd.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.